"Edrych ymlaen. Paid ag edrych yn ôl!"
 

Trobwll
(Cerddoriaeth – Vanta; Geiriau – Mei Emrys).

 

 

Pennill 1.
Ti’n dyfaru be ti ’di ’neud.
Pam ti’n poeni be fydd pobl yn dd’eud. 

Pont.
Chdi edrychodd arna i’n lle cynta’,
Mynnu trwbwl ydi gwneud peth felna.
Chdi afaelodd yn fy llaw i gynta’,
Os ti’m am orffen petha’ paid a’u dechra. 

Pennill 2.
Chdi sydd i feio, ’Sa’m bai arna i.
Nesh i’m gofyn, Nai’m deud na wrtha chdi. 

Pont. 

Cytgan.
Nes di’m meddwl cyn ti neidio.
I mewn i’r trobwll lle ti’n methu nofio.
Nes di’m meddwl cyn ti blymio.
I mewn i’r trobwll lle ti’n methu nofio.

Pennill 3.
Nei di’m edrych i’n llygad i mwy.
Ma’th wên di’n llugoer a ti’n halltu fy nghlwy’.

Pont.
Chdi edrychodd arna i’n lle cynta,
Mynnu trwbwl ydi gwneud peth felna.
Chdi afaelodd yn fy llaw i gynta.
Nei dim ennill dim. Cadw dy glwydda’.

Cytgan.
Nes di’m meddwl cyn ti neidio.
I mewn i’r trobwll lle ti’n methu nofio.
Nes dim meddwl cyn ti blymio.
I mewn i’r trobwll lle ti’n methu nofio.
Ti’n methu nofio.

Outro.
Ti’n poeni heb angen am dy falchder di dy hun. (x2).
I mewn, I mewn, I mewn i’r trobwll.
O, I mewn, Cer i mewn, I mewn i’r trobwll.