"Edrych ymlaen. Paid ag edrych yn ôl!"
 

Hanes

 

1998


Awst [11eg] Wedi ffurfio yn gynharach yn ystod eu blwyddyn olaf ond un yn ysgol uwchradd Brynrefail, Llanrug, mae Vanta yn chwarae eu gig cyntaf erioed yn Nhafarn Groegaidd Politis, Bangor Uchaf, Gwynedd.

Wedi agor gyda chân y Dandy Warhols’ “Not If You Were…”, maent hefyd yn chwarae eu fersiynau hwy o ganeuon gan Oasis, y Verve, Radiohead a’r Foo Fighters ymysg eraill, a hefyd yn cynnwys ambell gân wreiddiol yn eu set. Yn ystod y misoedd sy’n dilyn, mae’r band yn perfformio nifer o weithiau eto yn y Greeks, a hefyd yn dechrau ymddangos ar nifer o lwyfannau lleol eraill


1999 – Cynnar 2000


Mae Vanta’n parhau i gigio yn gyson, gan ddechrau ennill slotiau yn cefnogi bandiau Cymraeg adnabyddus fel Topper, Gwacamoli a Celt.


Tachwedd [27ain] Uchafbwynt 1999, heb os, yw eu gig “headlinio” cyntaf y tu allan i ogledd Cymru, yn y Cŵps, Aberystwyth.

Caeir drysau’r dafarn o fewn ychydig funudau i ddechrau’r set oherwydd ei bod yn gorlenwi, a’r gig yw’r cyntaf o nifer o berfformiadau llwyddiannus sy’n ennyn cryn ddilyniant i’r band yn Aber yn ystod y chwe mis sy’n dilyn: yn ystod misoedd cyntaf 2000, mae Vanta hefyd yn ymddangos yn yr enwog “Ffwti” (Clwb Pêl-Droed Aberystwyth) ac ar lwyfan Undeb Myfyrwyr y dref, ymysg lleoliadau eraill, am y tro cyntaf.



2000

Mehefin     Mae’r band yn recordio tair cân (“Carreg”, “Trobwll” ac “Ar Ben Dy Hun”) ar gyfer rhaglen BBC Radio Cymru – “Gang Bangor” – yn Stiwdio Pandy, Pentraeth, Ynys Môn.


Mehefin – Awst Mae Vanta’n gigio’n gyson, gan ymddangos ar lwyfannau nifer o brif wyliau cerddorol Cymru. Galwa Ian Cottrell eu perfformiadau yn Sesiwn Fawr Dolgellau, Maes-B Eisteddfod Genedlaethol Llanelli, a Gwyl Pen Draw’r Byd, Aberdaron, Gwynedd, yn “wych”.


Hydref         Darlledir fideo gyntaf Vanta – ar gyfer y gân “Trobwll” – ar raglen “4-Trac” ar S4C am y tro cyntaf.


Tachwedd  Chwaraea’r band yn y Ddawns Ryng-Golegol yn Aberystwyth, yn cefnogi’r Big Leaves, Anweledig a Melys.

Y “ddawns” yw un o nosweithiau blynyddol mwyaf y Sîn Roc Gymraeg, gyda thyrfa o fil o fyfyrwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt yn bresennol. Chwaraeir sesiwn stiwdio “Gang Bangor” y band ar Radio Cymru yn ystod yr wythnos cyn y ddawns.


Rhagfyr       Mae’r band yn dechrau ar y gwaith o recordio eu e.p. gyntaf ar gyfer label RASP (Fflach) yn Stiwdio Pandy, Pentraeth.


2001


Ebrill [27ain] Ymddangosa’r band ar raglen “Bandit” ar S4C Digidol, i hyrwyddo eu e.p. gyntaf, gyda fideo i’r gân “Oer”.


Mai Mae Pedair Stori Fer e.p. – cryno ddisg gyntaf Vanta – yn cael ei rhyddhau ar label RASP (Fflach). Caiff yr e.p. adolygiadau gwych, ac mae’n cyrraedd rhif 4 (y newydd-ddyfodiad uchaf) yn siart “Cytgord”. Caiff perfformiad acwstig arbennig gan y band yn yr Hen Lew Du, Aberystwyth dderbyniad gwresog.


Mehefin-Medi  Tra’n gigio’n gyson, ymddangosa’r band ar raglen Uned 5 ar S4C, gan chwarae dwy gân fyw – “Pen y Byd” a “Twll Diwaelod (Achub Fi)” – i hyrwyddo Pedair Stori Fer e.p.,

Unwaith eto, caiff eu perfformiad yn Sesiwn Fawr Dolgellau dderbyniad gwresog, a gwerthir pob tocyn ar gyfer eu set yn “headlinio” gig Cymdeithas yr Iaith yn y Bull, Dinbych, ar nos Wener yr Eisteddfod Genedlaethol. Hefyd, tua diwedd Awst, dechreuir gwaith ar ail e.p. y band yn Stiwdio Fflach, Aberteifi.


Hydref Ymddangosa’r fideo newydd – ar gyfer “Twll Diwaelod (Achub Fi)” – ar raglen “4-Trac” ar S4C, gan gael derbyniad mor dda nes fod Pedair Stori Fer e.p. yn ail-ddyfodiad yn ugain uchaf siart “Cytgord”. Mae’r band hefyd yn ymddangos ar raglen “Da ’Di Dil ’De” ar S4C, gan berfformio “Pen y Byd”.


Tachwedd [17eg] Ymddangosa Vanta unwaith eto ar lwyfan y Ddawns Ryng-Golegol yn Aberystwyth.

2002

Gorffennaf  Mae Dagrau Llawenydd / Tears of Joy e.p. yn cyrraedd y siopau o’r diwedd, gyda’r band yn perfformio eu gig cyntaf ers y mis Tachwedd blaenorol yn un o gigs Eisteddfod Genedlaethol Cymdeithas yr Iaith yn Solfach, Sir Benfro, ac yna yn ymddangos ar lwyfan Miri Madog, Porthmadog i’w hyrwyddo.


Tachwedd [16eg]  Ymddangosa Vanta ar lwyfan y Ddawns Ryng-Golegol, yn Aberystwyth, am y drydedd flwyddyn o’r bron. Mae cwmni teledu “Boomerang” yn recordio eu set, a darlledir y gân newydd “6:33” ychydig fisoedd yn ddiweddarach ar raglen hwyrnos S4C Digidol, “Bandit”.

2003


Chwefror-Mehefin  Mae’r band yn ymddangos ar nifer o raglenni teledu, gan gynnwys “Uned 5”, “Popcorn” a “Bandit”, er mwyn parhau i hyrwyddo Dagrau Llawenydd e.p.

Caiff eu perfformiad byw yn Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug, a ddarlledir ar raglen deledu “Y Set” tua diwedd mis Chwefror, dderbyniad gwresog iawn. Mae’r darllediad yn cynnwys perfformiad o’r gân newydd boblogaidd “6:33”.


Gorffennaf  Disgrifia gorsaf radio Champion 103 berfformiad acwstig arbennig Vanta fel “uchafbwynt” y Sesiwn Fawr yn Nolgellau, er bod yr wyl hefyd yn cynnwys perfformiadau gan artistiaid Cymraeg mor adnabyddus â phoblogaidd a Geraint Jarman (oedd yn perfformio ar y brif lwyfan yn ystod set Vanta ar y llwyfan arall) ac Anweledig, a oedd yn gwneud eu “comeback” byw yn yr wyl.


Awst    Derbynia berfformiad Vanta, yn cefnogi Bryn Fôn ar lwyfan Maes-B, ar nos Wener Eisteddfod Genedlaethol Meifod, yng nghanolbarth Cymru, adolygiadau da iawn, a chynhwysir caneuon o’u sêt yng Ngyl Cefni, Llangefni, tua diwedd y mis, ym mhecyn uchelbwyntiau BBC Radio Cymru o’r yl.


2004

Tachwedd Dychwela’r band i Stiwdio Pandy, Pentraeth, i recordio deunydd newydd.

“Enfys Bell” a “Tri Mis a Diwrnod” yw’r ddwy gân gyntaf i gael eu cwblhau. Caiff y ddwy dderbyniad da iawn, gan gael eu chwarae’n rheolaidd gan BBC Radio Cymru a gorsafoedd radio lleol megis Champion 103 a Radio Ceredigion.


2005


Mawrth [1af], Daw Vanta yn drydydd yng nghystadleuaeth Can i Gymru 2005 gyda’r gân “Enfys Bell”.

Wedi curo dros 200 o gantorion eraill i gyrraedd y rownd derfynol, darlledir perfformiad Vanta (yr unig fand yn yr wyth olaf) yn y rownd derfynol yn y Newport Centre, Casnewydd, yn fyw ar S4C. Vanta yw’r unig artist o’r wyth yn y rownd derfynol i ysgrifennu, recordio a pherfformio eu cân eu hunain: Recordir y caneuon eraill gan gerddorion sesiwn, a’u perfformio gan gantorion wedi eu gwahodd yn arbennig – mewn rhai achosion heb fod â unrhyw gysylltiad gyda’r rhai a ysgrifennodd y gân yn wreiddiol.


Mawrth – Gorffennaf Mae “Tri Mis a Diwrnod” yn un o’r caneuon sy’n

derbyn y mwyaf o geisiadau gan wrandawyr, ac a chwaraeir amlaf ar Radio Cymru a Champion 103.


Gorffennaf [26ain] Ar fferm Cernioge Bach, Pentrefoelas, gogledd Cymru,

perfformia Vanta “Enfys Bell” a “Tri Mis a Diwrnod” ar gyfer rhaglen deledu “Noson Lawen”, sy’n cael ei darlledu yn ystod y mis Tachwedd canlynol.


Awst [3ydd] Chwaraea Vanta eu set fyw lawn gyntaf ers deunaw mis yn gig

Cymdeithas yr Iaith yng Nghofi Roc, Caernarfon – yn cefnogi Celt ar nos Fercher wythnos Eisteddfod Genedlaethol Eryri 2005. Er mai hwy yw band cyntaf y noson, mae eu set wyth can yn cael derbyniad gwresog iawn gan dorf fawr.


Er, oherwydd cyfyngiadau amser, y cwtogir eu set yn cefnogi Bryn Fôn ac Elin Fflur yng Ngyl Cefni, yn Mona tua diwedd y mis, caiff y band dderbyniad gwresog iawn unwaith eto, gyda’r dorf yn gweiddi am “fwy” wrth iddynt adael y llwyfan.