![]() |
"Edrych ymlaen. Paid ag edrych yn ôl!" | ![]() |
![]() |
Cwsg
Anghofio |
|
|
Pennill 1. Dwi’n ffwl pan ydwi’n feddw, Pan dwi’n meddwi ar dy lygad di. Does dim rhaid ymddihaero am fy anwybyddu i. Achos dwi yn cyfadda’ y bai am bob dim s’di bod. Dwi’n sylweddoli mai mewn trwmgwsg oedd fy nod. Cytgan. Dwi ddim isio breuddwydio, Dwi ddim angan gobeithion hu. Does ’na neb isio gwrando, Gwell cysgu cwsg sy’n ddu, Cwsg Anghofio. Cwsg Anghofio. Pennill 2. Ma’ na betha’ dwi eu hangen. Ma’ na betha’ fysa’n braf i’w cael. Ond fedrai’m disgwyl derbyn, Neb am roi i gollwr gwael. Cytgan 2. Dwi ddim isio breuddwydio, Dwi ddim angen gobeithion hu. Does ’na neb isio gwrando, Ar obeithion wedi’u peintio’n ddu. Cwsg Anghofio, Cwsg Anghofio. Dwi’n edrych yn ôl, Achos fedrai ddim edrych ymlaen. Edrych drwy niwl meddw, Sy’n rhwystro atebion plaen. Cytgan 3. Cwsg Anghofio, Cwsg Anghofio. O, Cwsg Anghofio, Cwsg Anghofio.
|
||