"Edrych ymlaen. Paid ag edrych yn ôl!"
 

6:33
(Geiriau: Mei Emrys; Cerddoriaeth: VANTA).

 

 Pennill 1.
 
 Bron yn saith yn y bora.
 'Mond fi sydd yma
 Yng nghanol y ffordd yn siarad 'fo'r glaw.
 
 Un ffenest' yn olau.
 Gemau meddyliau.
 Dwi 'fatha deigryn yn dy law.
 Yn dy law.
 
 Pennill 2.
 
 Glaw Hydref yn rhewi.
 'Di'r wawr byth 'di torri.
 Dim ond tywyllwch sydd o nghwmpas i.
 
 A phob peth dwi'n ei gredu
 Di chwalu o 'mlaen i.
 Gobaith yn gelwydd yn dy eiriau di.
 Dy eiriau di.
 
 Cytgan.
 
 Llygaid oeraidd 6:33 yn poeri gwenwyn ar fy mreuddwyd i.
 Paradwys ffwl dy 'stafell di, a phob un gair yn troi yn sur.
 6:33
 
 Pennill 3.
 
 Dim ond chdi ydw'i isio.
 'Mond chdi a ti'n gwybod
 Gei di wneud beth bynnag wyt ti'sho i mi.
 
 Ond fel ma'r heulwen yn codi
 O'r môr o fy mlaen i,
 Mae'r awyr yn olau a dwi'n gweld y gwir.
 Dwi'n gweld y gwir.
 
 Cytgan.
 
 Offerynnol, yna ail adrodd Pennill 3.
 
 Cytgan.
 
 Llygaid oeraidd 6:33 yn poeri gwenwyn ar fy mreuddwyd i.
 Paradwys ffw^l dy 'stafell di, a phob un gair yn troi yn sur.
 
 Llygaid oeraidd 6:33, ond gei di byth fy nhwyllo i.
 Dwi'n gweld tu ol i dy lygaid di. Dwi'n gweld fod tithau'n ofni'r gwir.
 Ofni'r gwir,
 Geiriau sur,
 6:33.